Newyddion diweddaraf

Heledd Fychan AS yn mynegi pryder ynghylch y newyddion bod dros 100 o swyddi yn y fantol yn Rhondda Cynon Taf

Yn dilyn y newyddion bod Everest wedi cael eu rhoi yn nwylo’r gweinyddwyr gan roi dros 100 o swyddi yn Rhondda Cynon Taf yn y fantol, mae Aelod Seneddol rhanbarthol Plaid Cymru, Heledd Fychan, wedi mynegi ei phryder ac wedi annog Llywodraeth Cymru i roi cymorth i’r rhai sydd wedi eu heffeithio. 
Darllenwch fwy

Heledd Fychan AS yn cymryd rhan yn rhaglen Leonard Cheshire My Voice My Choice.

Diolch yn fawr i Josh Reeves a LCCymru am drefnu sesiwn holi ac ateb gwych yng nghanolfan gymunedol Maerdy heddiw. Mae gennym lawer o waith i’w wneud i sicrhau bod ein cymunedau yn gwbl hygyrch i bobl ag anableddau. Rwy'n edrych ymlaen i gefnogi’r holl ymgyrchoedd drafodwyd heddiw i greu newid gwirioneddol.

Plaid Cymru yn beirniadu Arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd am feio staff Sain Ffagan am heriau Amgueddfa Cymru

Mae llefarydd Plaid Cymru dros Ddiwylliant, Heledd Fychan AS, wedi beirniadu Arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, a wnaeth sylwadau "sarhaus a di-sail" neithiwr yn beio staff a Sain Ffagan am heriau sylweddol yr Amgueddfa Genedlaethol. Wrth siarad ar raglen Y Byd Yn Ei Le ar S4C nos Iau, tynnodd Huw Thomas sylw at y ffaith bod dros £30 miliwn wedi ei wario ar brosiect Sain Ffagan tua phum mlynedd yn ôl, gan ychwanegu y byddai uwch reolwyr yn yr Amgueddfa wedi bod yn ymwybodol o 'issues' ar y pryd.
Darllenwch fwy

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd